Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi talu teyrnged i wleidydd blaenllaw o Gatalwnia sydd wedi marw.

Roedd yr athronydd Josep-Maria Terricabras yn 77 oed.

Wedi graddio o Brifysgol Barcelona, aeth yn ei flaen i ennill Doethuriaeth ganddyn nhw a Phrifysgol Münster hefyd.

Bu’n ymchwilydd ym Mhrifysgol Münster, Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Califfornia.

Roedd hefyd yn Athro Emeritws yn Adran Athroniaeth Prifysgol Girona yng Nghatalwnia, a fe oedd sylfaenydd Cadair Ferrater Mora ar gyfer Meddwl yn Gyfoes, a bu’n gyfarwyddwr yno tan 2014.

Roedd yn arbenigo mewn athroniaeth gyfoes a gwaith yr athronydd Ludwig Wittgenstein, ac fe gyflwynodd e brosiect athroniaeth Filosofia 3/18 i blant Catalwnia a gwledydd lle caiff Catalaneg ei siarad.

Fe gyhoedd e’n helaeth ym myd athroniaeth hefyd.

Roedd yn ymgyrchydd iaith a hawliau ieithyddol, ac yn bencampwr PEN International, mudiad llenyddol y bu’n gadeirydd arno.

Fe gynrychiolodd e blaid Esquerra Republicana yn Senedd Ewrop rhwng 2014 a 2019, a daeth yn Llywydd Cynghrair Rydd Ewrop.

Ymhlith ei ddiddordebau y tu hwnt i’r byd gwleidyddol roedd darllen ac ysgrifennu, a bu’n gadeirydd Pwyllgor Cyfieithu a Hawliau Ieithyddol PEN International.

Yn ystod ei gyfnod yn gadeirydd y cafodd Maniffesto Girona ei gyflwyno, gan fynnu bod y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl unigolion i ddefnyddio’u hiaith eu hunain, gan ymhelaethu ar y Datganiad Byd-eang o Hawliau Ieithyddol yn 1996.

‘Dyn doeth ac egwyddorol’

“Dyn doeth ac egwyddorol” oedd Josep Maria Terricabras, yn ôl Hywel Williams.

“Roedd o’n gwerthfawrogi’r cwlwm rhwng Cymru a Chatalwnia’n fawr iawn,” meddai Aelod Seneddol Arfon.

“Cydymdeimlad â’i deulu ac Esquerra Republicana gan bawb ym Mhlaid Cymru.”

Dywed PEN International eu bod nhw’n “galaru colli Josep-Maria Terricabras”.

“Mae teulu PEN wedi colli ffrind annwyl,” meddai Burhan Sonmez, Llywydd PEN International.

“Bydd colled fawr ar ôl ei gynhesrwydd, ei ffraethineb a’i weledigaeth.”

Mae Cynghrair Rydd Ewrop hefyd wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud eu bod nhw’n “drist iawn” o’i golli.

“Byddwn yn cofio’i ddull athronyddol tuag at wleidyddiaeth, ei synnwyr digrifwch, a’i wybodaeth fawr,” meddai’r mudiad.

“Mae ein cydymdeimlad gyda’i wraig, ei blant a’i ffrindiau.”