Mae dynes yn ymgyrchu i sicrhau mwy o arwyddion yn rhybuddio bod geifr ar ffyrdd Llandudno a’r cyffiniau, ar ôl i nifer fach ohonyn nhw gael eu lladd.
Cafodd pedair gafr eu lladd yn gynharach y mis yma pan gawson nhw eu taro gan gerbyd ar yr A470.
Mae’r geifr wedi bod yn crwydro yn Llandudno a Chraig y Don ers cyfnodau clo’r pandemig, pan fentrodd yr anifeiliaid i lawr o’r Gogarth i strydoedd gwag y dref.
Mae Cyngor Conwy eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n rhoi ffens o amgylch y geifr, rhag ofn i’r awdurdod lleol ddod yn llwyr gyfrifol am eu lles.
Ond yn dilyn y ddamwain yr wythnos ddiwethaf, mae rhai bellach yn galw am ragor o arwyddion ffyrdd yn Llandudno a’r cyffiniau, i rybuddio modurwyr am bresenoldeb yr anifeiliaid.
Cais i’r cyhoedd
Dywed Wendy Keenan, sy’n fam i bump o blant ac yn nain i bedwar, fod angen i’r Cyngor godi rhagor o arwyddion ffyrdd.
“Mi wnes i bostio ar y dudalen Facebook ‘You Know You’re From Llandudno’, ac mae wedi cael tua 320 o bobol yn ei hoffi,” meddai.
“Dw i wedi rhoi cyfeiriad e-bost y tîm amgylcheddol yng Nghonwy i bawb, ac wedi gofyn i bawb anfon e-bost atyn nhw yn gwneud cais i godi arwyddion ffyrdd, rhywbeth fel ‘Gyrrwch yn ofalus, a pharchwch ein geifr’.
“Mae llawer o bobol wedi ffonio’r Cyngor.
“Mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth.
“Yn sicr, mae angen rhagor o arwyddion i fyny yn y dref.
“Cafodd pedair gafr eu lladd, ac mi wnaeth fy ypsetio’n fawr.
“Dw i’n caru anifeiliaid ac yn figan.
“Dw i jyst yn teimlo nad oes neb fel pe baen nhw’n gofalu am y geifr.
“Maen nhw fel pe baen nhw’n crwydro, a dw i wedi poeni erioed y gall fod yna ddamwain.
“Mae pobol yn dod i’r dref, ac efallai nad ydyn nhw’n gwybod am y geifr, hyd yn oed.
“Roedd yn sicr o ddigwydd yn hwyr neu’n hwyrach, ac rŵan mae o wedi digwydd.
“Mi allai o fod wedi bod yn fws llawn plant oedd wedi taro’r geifr.
“Gallai’r plant fod wedi cael eu hanafu.
“Ar y ffordd i Ysgol Creuddyn mae hyn.
“Gallai rhywun fod wedi cael eu lladd.
“Dw i jyst yn meddwl ei fod o’n ofnadwy.
“Mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth.
“Mae’r geifr yn bwysig iawn i Landudno. Mae o’n unigryw, on’d ydy?
“Fedrwch chi ddim mynd i unman yn y byd lle mae gennoch chi eifr yn rhydd i grwydro, ac mae pobol yn dod yma i gael cip arnyn nhw yn y dref.
Defnyddio arwyddion sy’n rhybuddio am geirw
Bu’r Cyngor yn cydweithio â Chyngor Tref Llandudno, Ystadau Mostyn, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r RSPCA i greu cynllun er mwyn rheoli’r anifeiliaid a lleihau’r gwrthdaro â thrigolion.
Y llynedd, datgelodd y Cyngor fod 153 o eifr ar y Gogarth, gan gynnwys nifer fach yn pori ar Ffordd Nant y Gamar yng Nghraig y Don.
Ond dywed y Cynghorydd Louise Emery fod y Cyngor wedi’u cyfyngu o ran yr arwyddion mae modd iddyn nhw eu defnyddio, gan egluro bod arwyddion am geirw ger Coleg Dewi Sant lle digwyddodd y ddamwain.
“Os ydych chi’n codi arwyddion ar ffyrdd, mae’n rhaid iddyn nhw gael eu cymeradwyo’n swyddogol fel priffyrdd,” meddai.
“Ond does yna’r un â gafr arnyn nhw.
“Y tu allan i Goleg Dewi Sant, mae arwyddion ar gyfer ceirw oherwydd dyna’r agosaf fedrwn ni ei gael, ac mae’n arwydd sydd yn sôn am anifeiliaid gwyllt yn gyffredinol.
“Felly mae yna arwyddion ar gyfer ceirw ac maen nhw eisoes wedi’u codi lle cafodd y geifr eu lladd.
“Mae’r geifr yn byw ar y Gogarth, on’d ydyn nhw?
“Adeg yma’r flwyddyn, maen nhw’n dod i lawr o’r Gogarth oherwydd dydy’r borfa heb dyfu’n iawn, felly o amgylch mis Mawrth maen nhw bob amser yn y dref.
“Adeg yma’r flwyddyn, mae rhan fwya’r geifr yn gwneud eu ffordd yn ôl i fyny’r Gogarth.
“Mae yna broblem efo geifr yn Nant y Gamar, Craig y Don, a’r A470, ac mae arwyddion wedi’u rhoi yno.
“Dw i ddim yn meddwl bod angen arwyddion ar draws y dref i gyd, oherwydd dim ond yn ystod y misoedd byr rhwng y gaeaf a’r gwanwyn rydyn ni’n eu gweld nhw yn y dref.”
Ymateb y Cyngor
“Cafodd Cynllun Rheoli Geifr Gwyllt Llandudno ei fabwysiadu gan randdeiliaid – gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ystadau Mostyn, yr RSPCA a Chyngor Tref Llandudno – yn 2023 i fonitro a rheoli’r boblogaeth eifr,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
“Caiff y geifr eu gweld yn rheolaidd o amgylch y dref.
“Maen nhw’n debygol o ddychwelyd i’r Gogarth pan fydd rhidio’n cychwyn, ac aros yno yn ystod misoedd yr haf.
“Efo partneriaid, rydyn ni weithiau’n symud y geifr dros dro yn ôl i’r Gogarth os oes yna berygl annerbyniol i les pobol neu anifeiliaid.
“Yn ddiweddar, cafodd 21 o eifr o ardal Craig y Don yn y dref eu casglu ynghyd.
“Mae arwyddion am anifeiliaid gwyllt yn eu lle i rybuddio gyrwyr fod anifeiliaid yn debygol o fod ar y ffordd o’u blaenau.”
Hanes y geifr
Daw geifr Kashmir o Tibet, Nepal, Ladakh a Kashmir yn wreiddiol, ac maen nhw’n cael eu galw’n eifr Changthangi, Changra neu Pashmina yn y gwledydd hynny.
Mae geifr y Gogarth yn ddisgynyddion pâr o eifr gafodd ei roi gan y Frenhines Victoria i ŵr pendefigaidd lleol, yn ôl gwefan y Cyngor.
“Cafodd pâr o eifr Parc Mawr Windsor ei roi i’r Uwchfrigadydd Syr Savage Lloyd Mostyn gan y Frenhines Victoria – o bosibl tua’r amser y gorffennodd wasanaethu fel Cyrnol yr Alban y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig,” yn ôl gwefan y Cyngor.
“Cafodd y geifr eu cadw yn Neuadd Gloddaeth yn wreiddiol, lle buon nhw yn magu, a chawson nhw eu rhyddhau i’r Gogarth rywbryd wedyn.”