Mae disgwyl i alwadau ar i Gyngor Sir Penfro newid eu trefniadau bancio â Barclays gael eu gwrthod yr wythnos nesaf, ar ôl i’r banc gyhoeddi eu bod nhw am gau cangen y dref sirol.
Bydd banc Barclays ar Stryd Fawr Hwlffordd yn cau ei ddrysau ar Fai 10.
Fe fu gan Gyngor Sir Penfro gytundeb bancio â Barclays ers 2013, a chafodd y cytundeb diweddaraf dros gyfnod o bedair blynedd ei lofnodi fis Mai y llynedd yn dilyn adolygiad annibynnol.
Galw am adolygu trefniadau bancio
Mewn rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Huw Murphy, fydd yn cael ei glywed gan gyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro ar Ebrill 22, mae’n gofyn i’r Cyngor adolygu eu trefniadau bancio gyda Barclays yn dilyn y cyhoeddiad am gau’r gangen.
“Mae colli nifer o gyfleusterau bancio yn Sir Benfro dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith andwyol ar ganol nifer o drefi megis Dinbych y Pysgod, Tyddewi, Abergwaun, Aberdaugleddau, Arberth, Trefdraeth, Penfro a Doc Penfro, a bydd yn cael effaith ar Hwlffordd yn fuan hefyd wrth golli banc Barclays yn y dref.”
Nid yn unig mae colli cangen yn “cael effaith ar ganol trefi a busnesau, ond mae hefyd yn effeithio’n anghymesur ar yr henoed, sy’n llai tebygol o gofleidio opsiynau bancio ar-lein”, meddai.
Ar ôl cyhoeddi bod cangen Hwlffordd am gau, dywedodd llefarydd ar ran y banc mai dim ond 32 o gwsmeriaid rheolaidd sydd gan y gangen, a’r rheiny’n defnyddio’r gangen yn unswydd ar gyfer eu bancio, ac nad ydyn nhw’n cyfathrebu â Barclays mewn unrhyw ffordd arall.
Dywed adroddiad ar ran aelodau’r Cabinet fod Barclays, wrth drafod yr effaith ar drigolion Sir Benfro, yn dweud nad ydyn nhw am “adael Hwlffordd” ac y byddan nhw’n “parhau i ddarparu cefnogaeth wyneb yn wyneb i’r sawl sydd ei hangen” drwy leoliadau cymunedol.
“Gall popeth arall gael ei wneud drwy ddulliau eraill, megis trafodion dyddiol drwy Swyddfa’r Post,” meddai.
“Byddwn ni’n cysylltu’n bersonol â’n defnyddwyr canghennau rheolaidd a bregus i drafod eu hopsiynau ac i’w tywys nhw drwy’r ffyrdd amgen o fancio.”
Cyflwyno opsiynau
Bydd dau opsiwn yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet yn sgil cynnig y Cynghorydd Huw Murphy, sef rhoi’r tendr ar gyfer y cytundeb gwasanaethau bancio allan unwaith eto, a’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio, sef cydweithio â Barclays i sicrhau bod lleoliad cymunedol yn cael ei sefydlu yn Hwlffordd.
Dywed yr adroddiad fod y gost sydd ynghlwm wrth symud i ddarparwr gwasanaethau newydd “yn gallu bod yn ormod, ac mewn rhai achosion yn uwch na chost y cytundeb blynyddol”, gan ychwanegu: “Tra gall costau amrywio rhwng awdurdodau lleol, gall fod dros £50,000.”
O ran yr ail opsiwn, sy’n cael ei ffafrio, dywed yr adroddiad: “Yn rhan allweddol o gyfathrebu cau’r gangen, fe wnaeth Barclays gynghori y byddan nhw’n sefydlu lleoliad cymunedol yn Hwlffordd.
“Tra bod hyn yn newid y ffordd mae Barclays yn gweithredu ar hyn o bryd yn Hwlffordd, mae’r cysyniad yn debyg i’r broses lwyddiannus o gyflwyno canolfan yng ngwesty’r Giltar yn Ninbych y Pysgod, a hwnnw’n weithredol ddwy waith yr wythnos.
“Mae trafodaethau wedi dechrau gyda Barclays i weld beth arall y gall y Cyngor ei gynnig yn nhermau lleoliadau.”
Yr argymhelliad yw y dylai aelodau’r Cabinet gefnogi’r ail opsiwn.