Mae’r Blaid Lafur yn San Steffan dan y lach am fethu â gwarchod sefydliadau diwylliannol Cymru.

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae yna ddiffyg “dewrder gwleidyddol” o fewn y blaid.

Daw hyn ar ôl i Lafur roi’r bai am dorri cyllid Amgueddfa Cymru ar setliad Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru.

Mae Llafur hefyd wedi methu ag ymrwymo i gynyddu cyllid Cymru pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi dangos diffyg “dewrder gwleidyddol”, ond yn ystod cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Ebrill 15), dywedodd e fod y penderfyniad i dorri cyllid Amgeuddfa Cymru “wir yn dangos yr angen i gael setliad gwahanol ar lefel y Deyrnas Unedig”.

Daw hyn ar ôl i Amgueddfa Cymru awgrymu y gall fod angen iddyn nhw gau’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a thorri 90 o swyddi.

Ond mae Liz Saville Roberts yn dweud bod Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid yn San Steffan, wedi “awgrymu’n gryf” y bydd Llafur hefyd yn torri gwariant pe baen nhw’n dod i rym ar lefel Brydeinig.

‘Poeni am ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru’

“Fe wnaeth y Canghellor gyhoeddi toriadau gwariant adrannol o hyd at £20bn yng nghyllideb y Gwanwyn,” meddai Liz Saville Roberts.

“Gadewch i ni fod yn glir y bydd y toriadau hynny’n creu tir gwastraff o ran ein gwasanaethau cyhoeddus, ac y byddan nhw’n gwneud hynny mewn gwlad, ein gwlad ni – Cymru – lle rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn sut mae cymuned yn gweithio i bawb.

“Dw i’n poeni am ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

“Rydym eisoes wedi gweld Llywodraeth Cymru’n gwrthod camu i mewn pan wnaethon nhw amddiffyn toriadau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

“Dw i’n drist fod y Prif Weinidog Vaughan Gething, yn hytrach na dangos dewrder gwleidyddol i warchod ein sefydliadau diwylliannol, yn dweud wrthym am aros yn amyneddgar i Ganghellor Llafur y dyfodol ddechrau ariannu Cymru’n iawn.

“Dw i’n poeni ei fod e’n cyfeirio at y Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid, sydd wedi awgrymu’n gryf y bydd Llafur yn bwrw ymlaen â thoriadau i wariant cyhoeddus pe bai’n ffurfio’r Llywodraeth nesaf.

“Mae fy mhlaid yn credu y dylai pobol Cymru allu manteisio ar fod â’r adnoddau i adeiladu ein tynged economaidd ein hunain.

“Pam na ddylen ni reoli ein hadnoddau naturiol drwy ddatganoli Ystad y Goron?

“Pam na ddylen ni greu system ariannu sy’n mynd i’r afael â’n hanghenion ac sy’n gwneud y defnydd gorau o’n cyfran deg o arian o HS2 a phrosiectau eraill?”