Mae Mick Antoniw wedi’i ailbenodi’n Gwnsler Cyffredinol Cymru.

Cyhoeddodd Vaughan Gething ei Gabinet cyntaf fis diwethaf, ar ôl olynu Mark Drakeford yn Brif Weinidog.

Bryd hynny, swydd y Cwnsler Cyffredinol oedd yr unig un wag yn y Cabinet, gan nad yw enw’r deilydd yn cael ei gyhoeddi ar unwaith.

Cafodd Mick Antoniw ei enwebu’n Ddarpar Gwnsler Cyffredinol yn y Cabinet newydd, wrth aros am gadarnhad o’i benodiad.

Ond mae bellach wedi cadarnhau y bydd yn parhau yn y rôl, gan ddweud ei bod yn “anrhydedd, yn dilyn argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru” a “chefnogaeth unfrydol” y Senedd.

Cafodd ei benodi o’r newydd gan Charles, Brenin Lloegr.