Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio’u gweledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg i bawb.

Cafodd ei lansio yn ystod sesiwn briffio yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Ebrill 18), er mwyn dangos llwybr cynnydd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050, sef y flwyddyn mae Llywodraeth Cymru wedi’i chlustnodi er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae’r adroddiad Addysg Gymraeg i Bawb: Cyrraedd y Nod yn dadansoddi’r cynnydd sydd ei angen ym mhob sir fesul pum mlynedd er mwyn cyrraedd y nod.

Mae hefyd yn dadansoddi’r cynnydd angenrheidiol er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o 50% o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn yr un flwyddyn.

Mae Cymdeithas yr Iaith am i Lywodraeth Cymru ymrwymo i addysg Gymraeg i bawb yn y Bil Addysg Gymraeg, sydd ar fin cael ei gyflwyno i’r Senedd.

Mae’r Bil yn cael ei ddisgrifio gan y mudiad fel “cyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i “drawsffurfio” y gyfundrefn addysg.

‘Colli ma’s ar addysg Gymraeg’

“Y broblem gyda’r cynigion yn y Papur Gwyn ar gyfer Bil Addysg Gymraeg y Llywodraeth yw bydd hanner plant Cymru dal yn colli mas ar addysg Gymraeg,” meddai Mabli Siriol, sy’n aelod o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Rydyn ni’n credu y dylai bod gan bob plentyn – o ble bynnag maen nhw’n dod, pwy bynnag yw eu rhieni, beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol – yr hawl yna i’r Gymraeg.

“Mae’r Bil yma’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsffurfio ein system addysg ni.

“Heddiw rydyn ni’n cyhoeddi gwaith ystadegol, trylwyr, safonol, sy’n dangos – ydy mae e’n uchelgeisiol, mae e’n her, gyda’r system addysg sydd gyda ni ar hyn o bryd – ond, mae e’n gyraeddadwy.

“Yr hyn sydd ei angen nawr yw’r uchelgais, yr ewyllys gwleidyddol, a’r cyllido gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.”

Yn 2021, cyhoeddodd y mudiad eu Deddf Addysg Gymraeg eu hunain, a honno’n gosod addysg Gymraeg i bawb fel nod mewn statud.

Yn 2022, cyhoeddodd y mudiad Strategaeth Datblygu Gallu’r Gweithlu Addysg, yn galw am fuddsoddiad sylweddol a chynllun gyda thargedau ar gyfer cynyddu nifer y gweithlu sy’n gallu gweithio trwy’r Gymraeg.

‘Gwarth o beth’

Cafodd y lansiad ei noddi gan Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru.

“Chwarter canrif wedi agor y Senedd hon, mae’n warth o beth bod y mwyafrif o blant a phobol ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o’r cyfle i siarad a defnyddio’r Gymraeg,” meddai.

“Mae’r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn dweud yn gyson bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ond mae’n amharod iawn i gymryd y camau radical sydd eu hangen os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau dyfodol cadarn i’n hiaith.

“Nid geiriau gwag sydd eu hangen ond gweithredu a buddsoddi yn y gweithlu, fel mae’r adroddiad hwn yn nodi.

“Dyma’r unig ffordd o sicrhau cyfleoedd cyfartal i’n plant a’n pobol ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.”