Mae Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr yr SNP a gŵr Nicola Sturgeon, wedi’i gyhuddo o embeslo arian o’r blaid.

Cafodd ei arestio fore ddoe (dydd Iau, Ebrill 18) wrth i’r ymchwiliad i gronfeydd yr SNP fynd rhagddo.

Cafodd ei arestio’n wreiddiol fis Ebrill y llynedd, cyn cael ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad.

Mae lle i gredu nad yw e bellach yn aelod o’r SNP, ychydig dros flwyddyn ar ôl gadael ei swydd.

Cafodd Nicola Sturgeon, cyn-Brif Weinidog yr Alban, ei harestio fis Mehefin y llynedd, a chafodd ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Cefndir

Dechreuodd Heddlu’r Alban gynnal ymchwiliad fis Gorffennaf 2021.

Mae’r achos yn ymwneud â sut gafodd rhoddion ariannol gwerth £600,000 i’r SNP ar gyfer eu hymgyrch annibyniaeth eu defnyddio.

Yn ystod yr ymchwiliad, mae’r heddlu wedi cynnal cyrchoedd ar gartref Peter Murrell a Nicola Sturgeon, ac ar bencadlys yr SNP.

Cafodd camperfan ei dywys o gartref mam Peter Murrell hefyd.

Fis Ebrill y llynedd, cafodd Colin Beattie, cyn-Drysorydd yr SNP ei arestio mewn perthynas â’r achos, a’i ryddhau dan ymchwiliad cyn ymddiswyddo.