Mae Richard Lee wedi’i benodi’n Brif Swyddog Gweithredol newydd St John Ambulance Cymru.

Bydd yn dechrau yn y swydd fis nesaf.

Dywed y mudiad eu bod nhw wedi cynnal “proses recriwtio drylwyr a ddenodd lawer o ddiddordeb”.

Mae’n hanu o dde Llundain yn wreiddiol, ond cafodd ei fagu yn y gogledd ac mae bellach yn byw yng Nghaerffili, ar ôl bod yn gweithio i’r mudiad yn Lloegr, gan arwain eu hymdrechion yn ystod Covid-19.

Cafodd ei benodi’n MBE yn 2021.

Mae’n barafeddyg, a bu’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn y gorffennol.

Bu hefyd yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod Rhyfel y Gwlff yn 1991, yn ogystal â gweithrediadau’r Cenhedloedd Unedig yn Bosnia yn 1993.

Yn ogystal â pharhau i gyflawni rôl wirfoddol gyda St John Ambulance, mae hefyd yn gwirfoddoli i MEDSERVE Cymru, cangen o’r elusen ‘British Association for Immediate Care’ (BASICS).

‘Cyfoeth o brofiad a hanes profedig’

“Mae gan Richard gyfoeth o brofiad a hanes profedig sy’n cyd-fynd yn ddi-dor â gweledigaeth a gwerthoedd ein helusen,” meddai Paul Griffiths, cadeirydd Ymddiriedolwyr St John Ambulance Cymru.

“Mae ei berfformiad rhagorol drwy gydol y broses gyfweld, ynghyd â’i ddealltwriaeth ddofn o’n sefydliad, yn dangos ei addasrwydd i’n harwain drwy ein heriau presennol a thu hwnt.”

Dywed Richard Lee ei fod yn edrych ymlaen “at gwrdd â’r gwirfoddolwyr a’r staff, ac at ddysgu mwy am y mudiad ac wynebu ein heriau gyda’n gilydd”.

“Er gwaethaf pwysau ariannol, rwy’n credu yn uchelgais yr elusen ar gyfer y dyfodol a’n ffocws ar bobl, cleifion, a chymunedau,” meddai.