Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru, wedi cyhoeddi’r ysgrifenyddion fydd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru.

Daw hyn wrth iddo fe gefnu ar y term ‘gweinidogion’.

Dywed y bydd y Cabinet yn “gweithio dros Gymru lawn optimistiaeth, uchelgais a chyfleoedd”.

“Rwy’n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru,” meddai Vaughan Gething.

“Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y Llywodraeth.

“Yn benodol, rwy’n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.

“Bydd y tîm gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach.

“Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net.

“I adlewyrchu ein nod o sicrhau ffyniant gwyrdd, rydym wedi creu swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

“Rwy’n credu mewn Cymru sy’n deall y gallwn ddathlu’n gwahaniaethau, ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein tynnu ynghyd ac yn creu ein hunaniaeth.

“Er y bydd sawl her ar y ffordd o’n blaen, mae gennym gyfleoedd sy’n fwy na’r heriau hynny.

“Rwy’n uchelgeisiol am y gwaith y bydd y tîm hwn yn ei gyflawni i wneud Cymru’n lle gwell eto.”

‘Ymrwymiad i’r Gymraeg’

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae “sawl peth i’w groesawu am y Cabinet newydd”.

“Bydd cysondeb o ran briff y Gymraeg a’i gyfuno â briff yr economi yn beth da,” meddai Joseff Gnagbo, cadeirydd y Gymdeithas.

“Rydyn ni’n disgwyl i’r Gymraeg fod yn ystyriaeth greiddiol i ddatblygiadau economaidd.

“Byddwn ni hefyd yn disgwyl i Julie James adeiladu ar y mesurau radical mae hi wedi eu cyflwyno i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a mynd at wraidd y broblem wrth iddi gymryd rôl benodol dros Dai a Chynllunio.

“Mae creu briff sy’n cynnwys materion gwledig yn addawol hefyd a byddwn ni’n disgwyl i Huw Irranca gydweithio gyda Julie James a Jeremy Miles i sicrhau cymunedau Cymraeg hyfyw.

“Mae cyfle gan Lynne Neagle i gryfhau’r Gymraeg.

“Fel Ysgrifennydd Addysg gall hi gryfhau ac ehangu ar Fil Addysg Gymraeg y Llywodraeth trwy osod nod bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

“Ac mae’n amlwg bod darlledu yn faes pwysig i’r Llywodraeth, sydd wedi cyhoeddi’r bwriad i greu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu, gan fod Ysgrifennydd Cabinet â chyfrifoldeb penodol dros ddarlledu – mae’n arwydd y gallwn ni ddisgwyl symudiad sydyn felly.

“Rydyn ni eisoes wedi galw ar Vaughan Gething i ddilyn esiampl ei ragflaenydd a dysgu’r a defnyddio’r Gymraeg rydyn ni’n gwneud yr un alwad ar bob aelod o’r Cabinet, bydd gweld Ysgrifenyddion Cabinet yn defnyddio’r Gymraeg yn profi ymrwymiad y Llywodraeth i’r iaith.”

‘Rhaid i lywodraeth newydd fodloni pobol Cymru yn gyflym’

“Dymunaf yn dda i bob Gweinidog a Dirprwy wrth iddyn nhw gymryd eu swyddi newydd, gan fynd ati i fynd i’r afael â heriau sylweddol ar draws pob portffolio,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, sy’n rhan o Gytundeb Cydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru.

“Rhaid i lywodraeth newydd fodloni pobol Cymru yn gyflym o’i chymhwysedd a’i hygrededd, a dangos argyhoeddiad i droi’r llanw ar record Llafur yng Nghymru.

“Mae tlodi plant, rhestrau aros yn y Gwasanaeth Iechyd, safonau addysgol isel ac economi gwan yn mynnu meddwl o’r newydd a gweithredu’n gyflym.

“Rhaid i heddiw fod yn drobwynt yn agwedd y llywodraeth tuag at graffu.

“Bydd gweinidogion sy’n barod i agor eu hunain i feirniadaeth a syniadau eraill, yn sicrhau gwell llywodraeth i bobol Cymru.”

NFU Cymru yn amlinellu eu galwadau ar yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yn y cyfamser, mae NFU Cymru wedi llongyfarch Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig newydd, ar ei benodiad.

Dywed y mudiad eu bod nhw’n “edrych ymlaen at gyfarfod â’r Ysgrifennydd Cabinet newydd ar y cyfle cyntaf”, a hynny yn sgil yr “heriau niferus… sy’n wynebu ffermwyr Cymru” ar hyn o bryd.

“Hoffwn longyfarch Huw Irranca-Davies ar ei benodiad yn Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig,” meddai’r llywydd Aled Jones.

“Daw’r Ysgrifennydd Cabinet newydd â chyfoeth o brofiad i’r portffolio, ac yntau wedi llywyddu fel Is-Ysgrifennydd Seneddol Defra, ac roedd e wedyn yn Weinidog Cysgodol Defra.

“Yn ei rôl yn Aelod o’r Senedd, mae e wedi ymgysylltu’n rheolaidd ag NFU Cymru a’n haelodau.

“Yn wir, fe wnaethon ni gyfarfod â fe yn gynharach yr wythnos hon, pan wnaeth e fynychu ein sesiwn galw-i-mewn ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y Senedd.

“Roedden ni’n falch o allu rhannu ein prif ofynion â Mr Irranca-Davies.

“Rydym yn disgwyl cyfarfod cynnar â’r Ysgrifennydd Cabinet i drafod yr heriau brys mae’r sector yn eu hwynebu, a’r aflonyddwch parhaus yn y diwydiant.

“Un o’r prif flaenoriaethau polisi fydd i’r Ysgrifennydd Cabinet fynd i’r afael â phryderon yr undeb am y cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Byddwn ni hefyd yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet gydnabod effaith emosiynol ac ariannol polisi diciâu mewn gwartheg presennol Llywodraeth Cymru.

“Yn ogystal â hyn, bydd NFU Cymru’n pwysleisio wrth yr Ysgrifennydd Cabinet yr angen i adolygu’r rheoliadau ansawdd dŵr anymarferol mae ffermwyr Cymru’n eu hwynebu.

“Mae gan NFU Cymru weledigaeth i ffermwyr Cymru fod yn arweinwyr byd wrth gynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Ysgrifennydd Cabinet newydd ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, i helpu ffermio yng Nghymru i wireddu ei uchelgeisiau.”

‘Llawer o drahauster’

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb yn chwyrn i’r penodiadau.

“Roedd llawer o drahauster ym mhenodiadau Cabinet Vaughan Gething,” meddai.

“Yn hytrach na gwrando ar bobol Cymru, mae e wedi penderfynu rhoi mwy o’r un peth iddyn nhw.

“Dydy hynny ddim yn ddechrau da.

“Cynigiodd y Ceidwadwyr Cymreig bleidleisiau i Vaughan Gething er mwyn dileu 20m.y.a., 36 yn rhagor o wleidyddion a Chynllunio Ffermio Cynaliadwy.

“Mae’r penodiadau hyn yn dangos ei fod e’n rhoi ideoleg eithafol Llafur cyn blaenoriaethau’r bobol.”

 


Y Cabinet

Y Prif Weinidog: Vaughan Gething

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol: Mick Antoniw

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Jeremy Miles

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Eluned Morgan

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rebecca Evans

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Julie James

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Lesley Griffiths

Y Prif Chwip a’r Trefnydd: Jane Hutt

Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hannah Blythyn

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: Jayne Bryant

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden