Bydd Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain yn cydweithio i sicrhau diogelwch cleifion tra bydd meddygon iau yn streicio.

Bydd trydedd streic meddygon iau Cymru’n cael ei chynnal yr wythnos nesaf.

Mae Judith Paget, Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, wedi rhybuddio y bydd hyn yn cael “effaith sylweddol” ar wasanaethau.

Er bod rhaid aildrefnu rhai apwyntiadau a thriniaethau, bydd gofal brys yn parhau i gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.

Dywed Judith Paget ei bod yn bwysig fod pobol yn osgoi defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys os nad yw’n hanfodol, a’u bod nhw’n “defnyddio gwasanaethau eraill” sy’n cynnwys NHS 111 Cymru ar-lein neu dros y ffôn, a fferyllfeydd.

Paratoi ymlaen llaw

Dywed Judith Paget y bydd byrddau iechyd yn rhoi gwybod i gleifion pe bai eu hapwyntiadau’n cael eu gohirio neu eu canslo.

“Os na fydd y bwrdd iechyd wedi cysylltu â chi, dylech fynd i’ch apwyntiad yn ôl y cynlluniau,” meddai.

“Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn eich ardal.”

Mae disgwyl y bydd y streic yn para pedwar diwrnod cyn diwrnodau Gŵyl Banc y Pasg, sef:

  • dydd Gwener, Mawrth 29
  • dydd Llun, Ebrill 1

Mae’n debygol y gallai gymryd mwy o amser nag arfer i wasanaethau meddygon teulu a fferyllfeydd brosesu presgripsiynau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae pobol hefyd yn cael eu cynghori i sicrhau ymlaen llaw fod ganddyn nhw ddigon o’u meddyginiaethau hanfodol, fel na fyddan nhw’n rhedeg allan pan fydd y meddygfeydd a’r fferyllfeydd ar gau dros yr ŵyl banc.

“Os ydych chi’n derbyn presgripsiynau rheolaidd, cynlluniwch ymlaen llaw cyn Gŵyl Banc y Pasg,” meddai Judith Paget.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich presgripsiynau rheolaidd o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.”