Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ddweud yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid, nad yw e “eisiau i’r dyfodol edrych fel y gorffennol”, a’i fod “eisiau i bobol deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto.”

Wrth siarad yng Nghaernarfon, bydd yn dweud mai ethol mwy o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yw’r ffordd o gadw’r Ceidwadwyr allan o rym.

Bydd hefyd yn anfon neges i’r Blaid Lafur i beidio â chymryd Cymru’n ganiataol.

Yn ôl yr arweinydd, mae pleidlais i Lafur yn yr etholiad cyffredinol yn cefnogi “uniongrededd y Torïaid”.

Mae disgwyl iddo ailadrodd y llongyfarchiadau estynnodd e i Vaughan Gething ar achlysur ei fuddugoliaeth yn ras arweinyddol Llafur Cymru.

Bydd yn dweud: “Yn wir, gwnaf hynny gyda didwylledd, gan wybod yn iawn yr anrhydedd a’r cyfrifoldeb a ddaw yn sgil swydd yr arweinydd.

“Ond yn union fel y dywedodd Rishi Sunak yn eironig ei fod yn cynnig “newid”, mae’n wir hefyd mai’r unig ‘newydd-deb’ gyda’r arweinydd Llafur newydd yng Nghymru yw’r ffaith lythrennol mai dim ond am ddau ddiwrnod y mae wedi bod yn ei swydd.

“Arweinydd newydd, ie. Ochenaid o’r ‘un peth eto’? Yn sicr.”

Rhodd o £200,000

Bydd Rhun ap Iorwerth hefyd yn cwestiynu’r rhodd o £200,000 dderbyniodd Vaughan Gething gan berchennog cwmni sydd yn euog o droseddau amgylcheddol yn ystod ei ymgyrch.

Bydd yn dweud: “Er ein bod wedi arfer â chwestiynau am roddion amheus o amgylch y Blaid Geidwadol, mae’r hyn yr ydym wedi’i weld yn ystod yr ymgyrch Lafur hon wedi tanseilio cymaint o ffydd.”

Cymru yn gyntaf

Neges arall Rhun ap Iorwerth fydd fod modd gwneud pethau’n wahanol yng Nghymru, a rhoi buddiannau’r wlad yn gyntaf.

Bydd yn dweud: “Nid dwy blaid yw Etholiadau Cyffredinol – er gwaetha’r hyn y byddai’r newyddion yn ei drosglwyddo i’r ystafelloedd byw a’r hyn a argraffwyd ym mhapurau’r bore.

“Ac … ar yr un pryd yn dweud y gallwn ddweud wrth Lafur na fyddwn yn gadael iddyn nhw gymryd Cymru yn ganiataol.

“O Fôn i Fynwy, mae ASau Ceidwadol wedi cefnogi cyfundrefn ddrylliedig sy’n achosi di-ddweud i’r bobol maen nhw i fod i’w gwasanaethu.”

Bydd hefyd yn cyhuddo Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, o ddilyn “uniongrededd” y Ceidwadwyr:

“Mae gweld Rachel Reeves yn cerdded yr un llwybr â Jeremy Hunt yn cynnig rhagor o lymder.

“Mae diswyddo Gweinidog yr Wrthblaid am sefyll ar linell biced yn isafbwynt newydd i Lafur.

“Mae brad HS2 Sunak a Starmer ond yn golygu bod Cymru ar ei hôl hi.”

Bydd yn mynnu bod Plaid Cymru “yn sefyll ar wahân i wleidyddiaeth sefydliad y Deyrnas Unedig”:

“Rydyn ni eisiau i bobol deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto.”

Mae disgwyl iddo fe alw ar y Trysorlys i roi’r arian sy’n ddyledus i Gymru drwy arian canlyniadol i bobol Cymru, ac i drosglwyddo’r grymoedd sydd eu hangen ar Gymru er mwyn adeiladu “senedd bwerus, nid datganoli tameidiog”.

“Rhowch ryddid i ni brofi’r hyn y mae pob un ohonom yn y neuadd hon a miloedd y tu hwnt iddi eisoes yn ei wybod – mai nid dyma’r cystal ag y gall pethau fod i Gymru.”