Mae Aelod o’r Senedd wedi bod yn trafod profiadau ei theulu o ddioddef effaith ddinistriol llifogydd, wrth iddi alw am gynllun gwytnwch cenedlaethol.

Wrth rybuddio am law monsŵn mwy rheolaidd, dywedodd Carolyn Thomas wrth i Siambr ei bod hi wedi cael ei dihuno yn oriau mân y bore y tro cyntaf i’w chartref gael ei effeithio.

“Roedd cymydog eisiau rhoi gwybod i mi fod ein cwningen anwes wedi boddi, fel ein bod ni’n gallu ei symud o’r gawell cyn i’r plant ddeffro,” meddai.

“Ces i sioc o weld afon o ddŵr yn tywallt oddi ar y ffordd i lawr ein lôn, yn tasgu i mewn i’r garej, a dŵr yn tywallt i lawr grisiau’r ardd, lle gwnaeth y grym ddymchwel wal frics ac ailymuno â’r lli yng nghefn ein gardd.

“Roedd yn dorcalonnus i’r plant ac i ni i gyd.

“Ac roedd hyn o ganlyniad i geuffos ar dir preifat i fyny’r lôn, ac mi allai fod wedi cael ei atal.”

Dywedodd fod hyn wedi digwydd eto yn ystod stormydd mis Hydref gan nad oedd y geuffos wedi’i chlirio.

‘Brwydr’

“Mae cymydog i mi wedi bod allan o’i heiddo ers bron i bum mis rŵan, wedi aros mewn gwesty dros y Nadolig, heb unlle i goginio, nunlle i olchi’r llestri,” meddai wedyn.

“Mae ei merch yn nyrs, ac mae hithau wedi bod yn brwydro, ac yn despret i gael ei chartref yn ôl.”

Fe wnaeth yr aelod Llafur o’r meinciau cefn, gafodd ei hethol i gynrychioli’r gogledd yn 2021, rybuddio bod yna ddryswch a gwadu cyfrifoldeb yn digwydd yn rhy aml.

Galwodd ar i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal cofrestr o bwy sy’n berchen ar ddraeniau, ffosydd, ceuffosydd a llwybrau dŵr bychain, gan ddechrau â’r rheiny sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan lifogydd.

“Pan fo llifogydd yn digwydd, mae’n digwydd mor gyflym fel ei bod yn aml yn rhy hwyr i ymateb.

“Yr ymateb ydy ffonio’r Cyngor am sachau tywod, neu’r gwasanaeth tân neu’r heddlu.

“Gallai sachau tywod helpu, ond yn aml mae’n rhy hwyr, a does dim rhaid i gynghorau eu darparu nhw.

“Dydy llawer ddim bellach – dydyn nhw ddim yn medru fforddio gwneud hynny.”

‘Bregus dros ben’

Mae Carolyn Thomas wedi croesawu’r cyhoeddiad yr wythnos hon o £34m tuag at gynlluniau lleddfu effeithiau llifogydd.

Pwysleisiodd cyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint bwysigrwydd cynnal y momentwm, wrth iddi rybuddio bod y rhwydwaith o reilffyrdd yn fregus dros ben.

“Pe bai pawb yn gwybod beth ydy eu cyfrifoldebau – boed yn dirfeddianwyr neu’n berchnogion tai – o dan gynllun gwytnwch llifogydd cenedlaethol, mi fedrai helpu i atal dinistr llifogydd i gymunedau ledled Cymru.”

Galwodd Heledd Fychan o Blaid Cymru am fforwm llifogydd cenedlaethol i Gymru, gan ddweud ei bod hi’n bwysig grymuso a chefnogi cymunedau.

“Mae angen y sgwrs genedlaethol honno, ond hefyd strwythur i gefnogi cymunedau, oherwydd nid pawb sy’n gallu eirioli drostyn nhw eu hunain mewn gwirionedd.”

‘Treth ychwanegol’

Cododd Llŷr Gruffydd, sy’n cynrychioli’r gogledd, bryderon ffermwyr yn Nyffryn Conwy sydd wedi bod yn gweithio er mwyn trwsio arglawdd Tan Lan.

“Mae ffermwyr yn talu i mewn i’r pot, ond dydyn nhw ddim yn teimlo’u bod nhw’n cael rhywbeth digonol yn ôl,” meddai.

Yn yr un modd, rhybuddiodd Mabon ap Gwynfor, ei gydweithiwr ym Mhlaid Cymru, fod ffermwyr yn wynebu treth ychwanegol am system sy’n eu hesgeuluso nhw ar hyn o bryd.

Pwysleisiodd Mike Hedges, aelod o feinciau cefn Llafur sy’n cynrychioli Dwyrain Abertawe, fod yn rhaid i’r dŵr fynd i rywle, wrth godi rôl llyn artiffisial yn ymyl afon Tawe.

Tynnodd e sylw at gamau eraill i leihau llifogydd, megis plannu coed a pherthi, gosod trofeydd mewn afonydd, a sicrhau bod ceuffosydd yn glir.

‘Stormydd dinistriol’

Wrth ymateb i’r ddadl ddydd Mercher (Mawrth 20), tynnodd Julie James sylw at strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer llifogydd, sy’n tynnu ar yr hyn gafodd ei ddysgu yn sgil stormydd dinistriol yn 2020.

Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru fod ganddi ddiddordeb yn syniad Heledd Fychan o sefydlu fforwm cenedlaethol i gymunedau sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd.

“Dw i’n credu bod angen i chi sicrhau ei fod yn cyd-blethu ac nad yw ond yn fforwm i ddweud pa mor anhapus ydych chi,” meddai, wrth grynhoi araith 400 tudalen gafodd ei rhoi iddi gan swyddogion.

Dywedodd Julie James yn ystod ei chyfraniad olaf posib yn Weinidog Hinsawdd ar drothwy ad-drefnu sydd ar y gorwel, y bydd gweinidogion yn ymateb yn fuan i adolygiad annibynnol o lifogydd.

Ychwanegodd y bydd y strategaeth gwytnwch newid hinsawdd yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref.