Ar ben draw’r argyfwng, rhaid adfer y wlad mewn ffordd “gynhwysol”, a rhaid ystyried pob gweithiwr yng Nghymru yn “weithiwr Cymreig”.

Dyna farn Shavanah Taj, Is-gadeirydd ‘Grŵp Cynghorol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y Prif Weinidog ar Covid-19’ (grŵp sy’n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru).

Daeth ei sylw wrth roi tystiolaeth ynghylch effaith covid-19 ar leiafrifoedd ethnig yng Nghymru gerbron un o bwyllgorau’r Senedd.

Yn ystod y sesiwn mi dynnodd cryn sylw at y caledi mae gweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi’i hwynebu yn ystod yr argyfwng, ac mi bwysleisiodd bod angen i’r Llywodraeth drin pawb yr un fath.

“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch creu Cymru well ar bendraw’r argyfwng mae’n rhaid gwneud hynny mewn ffordd gyfiawn a chynhwysol,” meddai.

“A rhaid ystyried pob un ohonom yn weithwyr Cymreig. Achos ar hyn o bryd, weithiau, dyw e’ jest ddim yn teimlo fel’na.”

Gyrwyr tacsi

Yn ystod sesiwn dystiolaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, wnaeth Shavanah Taj dynnu sylw at brofiadau gyrwyr tacsi o leiafrifoedd ethnig.

Dywedodd Shavanah Taj wrth y pwyllgor bod “llawer” o yrwyr yn fregus i coronafeirws, a hynny oherwydd natur y swydd a mai eu “cerbyd yw eu gweithle”.

Ategodd eu bod mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle dydyn nhw ddim yn medru gwneud y cerbydau yn fwy diogel am nad oes ganddyn nhw’r arian i wneud hynny.

“Mae yna rywbeth gall Lywodraeth Cymru ei wneud – a dw i’n gwybod bod hyn wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban,” meddai wrth gynnig ateb i’r sefyllfa.

“Yn y llefydd rheiny, mae grant cymorth penodol wedi’i ddarparu i’r unigolion rheiny fel eu bod yn medru gosod sgriniau yn eu cerbydau, ac fel eu bod yn medru cael PPE priodol.”

Ystadegau BAME

Mae ffigurau’r Llywodraeth yn dangos bod 40.2% o yrwyr tacsi a chauffeurs Cymru yn BAME (hynny yw, yn ddu, Asiaidd, neu o leiafrif ethnig).

O edrych ar Gymru gyfan, dim ond 5.9% o’r boblogaeth sydd yn BAME, felly mae pobol nad ydynt yn wyn yn cael eu gor-gynrychioli yn y maes gwaith yma.