Safle nwy BP yn Algeria, lle bu'r warchae (llun PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cadarnhau bod tri gweithiwr o Brydain wedi cael eu lladd yn sgil diwedd gwaedlyd y gwarchae yn Algeria ddoe.

Gwaethygu mae’r ofnau am dri arall hefyd sy’n dal ar goll.

Roedd lluoedd arbennig Algeria wedi lansio “ymosodiad terfynol” ar y terfysgwyr Islamaidd a oedd yn meddiannu safle anghysbell nwy BP yn In Amenas gan ddod â’r gwarchae a barhaodd am bedwar diwrnod i ben.

Yn ôl awdurdodau Algeria, roedd 23 o wystlon (heb gyfri’r rhai diweddaraf) a phob un o’r 32 o derfysgwyr wedi cael eu lladd ers dydd Mercher, tra bod 107 o weithwyr tramor a 685 o weithwyr lleol wedi cael eu rhyddhau.

‘Dim dewis’

Er bod ei bod yn amlwg fod llywodraeth Prydain yn amheus o’r penderfyniad i ymosod ar y safle, dywed llywodraeth Algeria nad oedd dewis ond lladd y terfysgwyr gan eu bod am geisio dianc gyda’r gwystlon ac wedyn ffrwydro’r safle nwy. Erbyn diwedd y gwarchae, daeth yn amlwg fod y terfysgwyr wedi lladd saith o’r gwystlon cyn iddyn nhw’u hunain gael eu lladd gan filwyr Algeria.

Mewn datganiad, dywedodd David Cameron:

“Dw i’n gwybod bod y wlad i gyd yn rhannu fy nghydymdeimlad a’m gofid gyda phawb sydd wedi cael eu dal yn y digwyddiad yma, a gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd.

“Mae’n penderfyniad ni’n gryfach nag erioed i weithio gyda chyngreiriaid ledled y byd i orchfygu a chael gwared ar y melltith terfysgol yma a’r rheini sy’n ei annog.”

Y sefyllfa ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf yw bod, yn ogystal â’r tri sydd wedi cael eu lladd, ddau ddinesydd Prydeinig ac un preswyliwr Prydeinig naill ai wedi marw neu ar goll, yn ogystal â’r Prydeiniwr a gafodd ei ladd ar ddiwrnod cynta’r ymosodiad terfysgol.