Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Mae pump o ddinasyddion Prydeinig ac un preswylydd Prydeinig naill ai wedi marw neu ar goll ar ôl i argyfwng gwystlon Algeria ddod i ben mewn brwydr waedlyd.

Cyhoeddwyd hyn gan yr Ysgrifennydd Tramor William Hague heno ychydig oriau ar ôl i luoedd arbennig Algeria lansio ‘ymosodiad terfynol’ ar y gweddill o derfysgwyr Islamaidd a oedd wedi meddiannu safle nwy anghysbell BP yn In Amenas.

“Ar sail yr wybodaeth sydd gennym heno, credwn fod pump o ddinasyddion ac un preswylydd Prydeinig sydd naill ai wedi marw neu nad oes gyfrif amdanyn nhw – yn ogystal â’r un farwolaeth a oedd eisoes wedi ei chadarnhau,” meddai.

“Rydym yn gweithio’n galed i gael gwybodaeth bendant am bob unigolyn. Rydym mewn cysylltiad â phawb o’r teuluoedd.”

Mae llywodraeth Algeria hefyd wedi cadarnhau bod 55 wedi cael eu lladd yn y warchae dros y tridiau diwethaf – 32 o derfysgwyr a 23 o wystlon.

Cafodd cyfanswm o 685 o weithwyr o Algeria a 107 o weithwyr tramor eu rhyddhau ers dydd Mercher.

Ychwanegodd y llywodraeth fod y terfysgwyr yn 32 o ddynion o amrywiol wledydd, gan gynnwys tri o Algeria.