Safle nwy BP yn Algeria (llun PA)
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, wedi cadarnhau fod y gwarchae ar safle nwy BP yn Algeria wedi dod i ben wrth i luoedd Algeria ladd 11 o derfysgwyr mewn ymosodiad terfynol.

Roedd saith o’r gwystlon wedi cael eu lladd gan y terfysgwyr yn yr ymosodiad, ond does dim gwybodaeth eto o ba wleydydd yr oedden nhw’n dod.

Mae adroddiadau hefyd fod 16 o wystlon eraill wedi cael eu rhyddhau – gan gynnwys dau Americanwr, dau Almaenwyr ac un o Bortiwgal.

Dywed yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fod “llai na 10” o weithwyr o Brydain yn dal ar goll, ac addawodd y byddai’r Llywodraeth yn troi pob carreg am wybodaeth am bob un ohonyn nhw.

Roedd disgwyl i lysgennad Prydain yn Algiers, Martyn Roper, deithio i ardal anghysbell y safle nwy yn anialwch Sahara yn ddiweddarach heddiw.