Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams (Doner48 CCA3)
Mae llywydd Sinn Fein yn galw ar lywodraethau Prydain ac Iwerddon i drefnu dyddiad ar gyfer refferendwm i roi cyfle i bobl Gogledd Iwerddon bleidleisio dros Iwerddon unedig.

Wrth draddodi araith allweddol yn Nulyn, dywedodd Gerry Adams y byddai economi sengl i Iwerddon gyfan yn dda i ffyniant, swyddi a buddsoddiad.

Dywedodd y byddai refferendwm yn ystod tymor nesaf Cynulliad Gogledd Iwerddon a senedd y Weriniaeth yn ffordd dda o symud ymlaen gyda’r broses a ddechreuodd gyda Chytundeb Dydd Gwener y Groglith 15 mlynedd yn ôl.

‘Synnwyr gwleidyddol ac economaidd’

“Mae undod yn Iwerddon yn gwneud synnwyr,” meddai. “Mae’n gwneud synnwyr gwleidyddol. Mae’n gwneud synnwyr economaidd. Mae er budd gorau pobl yr ynysoedd hyn.”

Dywedodd y byddai mwy o gydweithio ac undod yn trawsnewid y tirwedd economaidd a gwleidyddol.

“Dychmygwch y manteision economaidd ac effeithlonrwydd petai un system addysg, un gwasanaeth iechyd, un rhwydwaith ynni  a fframwaith buddsoddi ar gyfer yr ynys gyfan.

“Dychmygwch un economi, yn lle dwy, ac un arian, a hynny heb y cyfraddau gwahanol mewn treth ar werth a threth gorfforaethol.

“Dychmygwch ‘Brand Iwerddon’ yn cael ei ddefnyddio’n greadigol i gynyddu’n hallforion a chreu swyddi.

“Mae’r holl bethau hyn, a mwy, yn bosibl.”