Joe Biden, Dirprwy-arlywydd America, yn gadael cyfarfod yn y Senedd ddoe
Mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi rhoi sêl bendith i ddeddfwriaeth sy’n ceisio atal y wlad rhag cyrraedd y ‘dibyn ariannol.’

Yn gynnar fore Calan pleidleisiodd 89 o blaid ac 8 yn erbyn, mewn siambr sy’n cael ei dominyddu gan y Democratiaid.

Mae disgwyl pleidlais yfory yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, sy’n cael ei arwain gan y blaid Weriniaethol.

Heb gytundeb byddai trethi yn codi a gwariant yn cael ei dorri yn awtomatig wrth i fesurau a gafodd eu cyflwyno dan George W Bush ddod i ben.

Byddai deddfwriaeth yn atal trethi’r dosbarth canol rhag codi, ond yn codi’r gyfradd dreth i unigolion sy’n ennill dros $400,000 ((£245,800), neu gyplau sy’n ennill $450,000.

Byddai hefyd yn golygu na fydd toriadau gwariant am ddau fis, ac yn ymestyn budd-daliadau i’r rheiny sy’n ddi-waith ers cyfnod hir ac yn atal cynnydd ym mhrisiau llaeth.

Byddai pasio cymal munud-olaf hefyd yn golygu na fydd aelodau’r Gyngres – sef y Senedd a Thŷ’r Cynrychiolwyr – yn cael codiad cyflog o $900 (£553) ym mis Mawrth.