Mae hi wedi bod yn flwyddyn fawr i Gymru o ran newyddion – arweinydd newydd i Blaid Cymru,  diflaniad y ferch fach April Jones o Fachynlleth, y Cyfrifiad yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifainc yn corddi’r dyfroedd.

Dyma’r 10 stori oedd wedi hawlio sylw darllenwyr Golwg360 yn ystod y flwyddyn.

  1. Roedd rhai o sgetshis Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc, oedd yn cael ei darlledu yn fyw o Abergwaun, wedi cael eu cyhuddo ar gyfryngau cymdeithasol o fod yn “hiliol” gan arwain at dynnu’r rhaglen oddi ar wefan ail-wylio Clic S4C.<http://www.Golwg360.com/newyddion/cymru/92169-eisteddfod-y-ffermwyr-ifainc-ymateb-chwyrn>
  2. Roedd diflaniad y ferch 5 oed April Jones o Fachynlleth wedi hawlio sylw ar draws y DU gyda miloedd o wirfoddolwyr yn cynnig helpu i chwilio amdani. <http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/87407-diflaniad-april-jones-y-diweddaraf-o-fachynlleth>
  3. Daeth canlyniadau Cyfrifiad 2011 â newyddion drwg ynglŷn â’r Gymraeg wrth i’r niferoedd sy’n siarad yr iaith ddisgyn. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/94179-cyfrifiad-niferoedd-y-siaradwyr-cymraeg-wedi-disgyn>
  4. Leanne Wood aeth a hi yn y gystadleuaeth am arweinyddiaeth Plaid Cymru – fe gyhoeddodd Golwg360 blog byw o’r cyhoeddiad http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/67904-arweinyddiaeth-plaid-cymru-blog-byw-or-cyhoeddiad
  5. Darllenwyr Golwg360 yn dewis Leanne Wood fel arweinydd newydd Plaid Cymru mewn pôl piniwn <http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/66490-pol-piniwn-arweinyddiaeth-plaid-cymru>
  6. Mam Gary Slaymaker  yn ffonio rhifyn cyntaf y rhaglen newydd Heno ar S4C i gwyno am ei fod yn “ddilornus” i’w mab http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/67230-slaymaker-yn-grac-gyda-heno
  7. 116,000 o bobl yn gwylio’r clip enwog o Bryan ‘yr Organ’ Jones yn colli ei bwyll wrth gefnogi tîm rygbi Cymru. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/66154-ff-mi-ffaro-ar-fin-cael-mwy-o-wylwyr-na-pobol-y-cwm
  8. Does dim pwynt gwario mwy o arian ar geisio achub yr iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl Dr Simon Brooks http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/94475-anghofiwch-sir-gar-os-am-achub-yr-iaith
  9. Eileen Beasley, y wraig  a chwaraeodd ran allweddol wrth danio’r frwydr i achub yr iaith Gymraeg yn marw yn 91 oed http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/82416-eileen-beasley-wedi-marw
  10. Alan Llwyd wedi’i “syfrdanu” nad oedd ei gofiant am yr awdures Kate Roberts wedi hawlio’r brif wobr o £8,000 http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/78861-alan-llwyd-yn-cwyno-am-gael-cam