O heddiw ymlaen fe allai hen bobol hawlio iawndal gan eu plant yn China, os nad ydyn nhw’n derbyn ymweliadau cyson gan eu hanwyliaid.
Yn gyfreithiol bellach mae’n rhaid i blant fynd i weld eu rhieni yn “aml”.
Ond nid yw’r gyfraith yn manylu faint mor aml yn union y dylai mam a dad dderbyn ymweliadau.
Bydd y ddeddf yn cael ei diwygio i roi’r hawl i rieni mewn oed fynd â theulu i lys barn os ydyn nhw’n teimlo’n ddig am nad ydyn nhw’n derbyn ymweliadau cyson.
Mae llu o straeon yn China am hen bobol yn cwyno am gael eu hanwybyddu gan eu plant.
Wrth iddi ddatblygu’n gyflym mae’r wlad yn wynebu anhawsterau wrth ofalui am boblogaeth sy’n heneiddio.
Nain cwt mochyn
Yn gynharach yn y mis roedd adroddiadau bod nain yn ei Naw Degau oedd yn trigo yn ardal gyfoethog talaith ddwyreiniol Jiangsu, wedi ei gorfodi i fyw mewn cwt mochyn gan ei mab – a hynny am ddwy flynedd.
Mae straeon yn aml yn y papurau newydd a’r cyfryngau yn China am gam-drin neu anwybyddu rhieni mewn oed, neu am blant yn ceisio hawlio cyfoeth y rhieni heb yn wybod iddyn nhw.