Fe gafodd organydd eglwys 68 oed ei guro’n ddidrugaredd ar ei ffordd i wasanaeth noswyl Nadolig yn Sheffield, meddai’r heddlu.
Yn ddiweddarach bu farw Alan Greaves oherwydd ei anafiadau.
Wedi ei farwolaeth dywedwyd ei fod yn ddyn uchel ei barch yn ei gymuned ac mae’r heddlu wedi erfyn am wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd iddo.
Nid yw’r heddlu wedi penderfynu beth oedd y rheswm am yr ymosodiad, ond yn ôl y Ditectif Uwcharolygydd Matt Fenwick roedd yn debygol bod arf wedi ei ddefnyddio i’w guro.