Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o ladd ei gariad wedi ei gadw yn y ddalfa.
Daethpwyd o hyd i gorff Charmaine Macmuiris, 37, Ddydd Nadolig. Roedd ganddi dri o blant.
Ymddangosodd David Thomas O’Sullivan, 28, o Maes-y-Ysgol, Caerfyrddin, yn Llys Ynadon Llanelli heddiw.
Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio rhyw bryd rhwng 23 a 25 Rhagfyr, ac fe glywodd y llys bod y cwpwl wedi bod yn canlyn am ychydig dros bythefnos.
Roedd teulu Mc Macmuiris yn y galeri gyhoeddus a bu gweiddi pan ymddangosoddd Mr O’Sullivan yn y llys, yn gwysgo siwmper dywyll.
Dim ond cadarnhau ei enw, ei oed a’i chyfeiriad ei gartref wnaeth o, a bydd yn ymddangos eto ger bron Llys y Goron Abertawe ar Ionawr 8.