Mae heddlu Sbaen wedi rhwystro cyflenwad 11 tunnell o’r cyffur hashish a oedd yn cael ei gario mewn lorïau o Forocco.
Mae 35 o bobol wedi cael eu harestio mewn cyrch i chwalu’r cylch smyglo gyda’r mwya’ ar gyfandir Ewrop.
Mae awdurdodau Sbaen wedi bod yn arddangos y llwyth cyffuriau o flaen pencadlys yr Heddlu Cenedlaethol yn y wlad heddiw. Roedd peth o’r cyffur wedi ei becynnu fel bariau sebon, tra’r oedd y rhan fwya’ ohono’n cael ei gario mewn cesys.
Yn ôl yr awdurdodau, roedd yr hashish wedi ei gario o Morocco i bencadlys Sbaen, Madrid, ar gyfer ei ddosbarthu wedyn i wlad Belg, gwledydd Prydain a’r Iseldiroedd.