Mae Tywysog Cymru wedi talu teyrnged i luoedd arfog gwledydd Prydain sy’n ymladd yn Afghanistan, mewn neges radio Nadoligaidd i filwyr dramor.
Fe ddiolchodd y Tywysog Charles i’r gwyr a’r gwragedd hynny sy’n gwasanaethu dramor, gan danlinellu eu dewrder. Mae “dyled ddiddiwedd o ddiolchgarwch” ar ysgwyddau’r genedl, meddai.
Yn y neges, a gafodd ei recordio yr wythnos ddiwetha’ ym Mhalas St James ac a gafodd ei darlledu fore heddiw, Gwyl San Steffan, fe ddywedodd y Tywysog fod y rhai hynny sy’n treulio’r wyl oddi cartref ar flaen ei feddwl ac yn amlwg yn ei weddïau.
Fe fu hefyd yn jocian am dderbyn llythyr gan ei fab, y Tywysog Harry, sy’n treulio’r Nadolig yn gweithio fel peilot hofrennydd Apache yn Afghanistan.