Mae gwraig wedi marw ar ôl bod yn ymdrochi yn y môr yn ne Lloegr ddoe.
Mae heddlu newydd gadarnhau fod y wraig wedi ei sgubo allan i’r môr ar draeth Hastings yn Nwyrain Sussex ar ddydd Nadolig.
“Am 10.40am ddoe, roedd oedolyn benywaidd yn ymdrochi yn y môr yn Hastings, pan gafodd ei tharo gan don a’i sgubo allan i’r môr,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Sussex.
“Fe gafodd y wraig ei hachub o’r môr, ac fe dderbyniodd driniaeth argyfwng ar y lan, cyn cael ei chludo i’r ysbyty. Yn anffodus, mae hi wedi marw o ganlynia i’r digwyddiad.”