Mae gweinidog trafnidiaeth yr Almaen yn gwrthod addo na fydd mwy o oedi yn y gwaith o godi maes awyr newydd Berlin – ac mae hynny oherwydd problemau technegol gyda’r sustem ddiogelwch tân.

Mae maes awyr y brifddinas yn brosiect anferth, ond mae wedi troi’n dipyn o embaras i swyddogion y ddinas oherwydd fod y gost o’i adeiladu wedi dyblu, ac mae wedi methu’r dedlein o flynyddoedd.

A heddiw, mewn cyfweliad gyda phapur newydd Die Welt, fe ddywedodd y gweinidog, Peter Ramsauer, na allai addo y byddai’r maes awyr yn agor ar Hydref 27, 2013.

Y bwriad oedd i Faes Awyr Willy Brandt (enw’r awyrenfa newydd) gymryd lle dau faes awyr Tegel a Schoenefeld, sydd bellach yn heneiddio ac wedi bod yn gwasanaethu dinas Berlin – y Gorllewin a’r Dwyrain – ers dyddiau’r Rhyfel Oer.

Y dyddiad agor cynta’ gyhoeddwyd oedd “diwedd 2011”, ond fe symudodd hynny i Fehefin 2012, ac erbyn hyn, 27 Hydref 2013.