Mae llygad-dystion yn dweud fod miloedd o brotestwyr wedi dod ynghyd unwaith eto yn nhalaith Mwslimiaid Sunni i’r gorllewin o Baghdaad, er mwyn lleisio eu gwrthwynebiad i’r llywodraeth Shi-aidd.

Mae’r protestwyr wedi crynhoi ar y ffordd sy’n cysylltu Baghdad gyda gwlad yr Iorddonen a Syria. Maen nhw’n codi baneri yn mynnu hawliau i Fwslimiaid Sunni, ac maen nhw’n galw am ryddhau carcharorion Sunni o garchar.  

Dyma’r drydedd brotest yn nhalaith Anbar mewn llai nac wythnos.

Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd llywodraeth Irac ei bod hi wedi arestio 10 o warchodwyr y Gweinidog Cyllid, Rafia al-Issawi, ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth.

Mae Al-Issawi yn hanu o dalaith Anbar, a fo ydi un o swyddogion Sunni amlyca’ a mwya’ profiadol y llywodraeth.