Mae ffrwydriad wedi rhwygo warws dân gwyllt yn ninas fwya’ Nigeria, gan achosi tân anferth.
Fe ddigwyddodd y ffrwydriad tua 9 o’r gloch fore ddoe yn ardal Lagos Island yn ninas Lagos, gan ysgwyd ffenestri cartrefi filltiroedd i ffwrdd.
Fe welwyd cwmwl trwchus o fwg yn codi dros yr ynys, ac fe ymledodd y tân yn gyflym. Fe gyrhaeddodd dau ymladdwr tân mewn un injan dân, ac fe ddaeth pobol leol i helpu i ddiffodd y tân â phibell ddwr.
Roedd tân gwyllt yn dal i gael eu tanio i’r awyr, awr wedi’r ffrwydriad gwreiddiol.