Fydd yna ddim hanner y bobol yn ninas Washington ar gyfer gorseddu’r Arlywydd Barack Obama am yr ail waith, o gymharu â faint heidiodd i’r ddinas ar gyfer yr un seremoni yn 2009.

Mae awdurdodau prifddinas yr Unol Daleithiau yn disgwyl rhwng 600,000 ac 800,000 o ymwelwyr ar gyfer y digwyddiad ar Ionawr 21. Bedair blynedd yn ôl, pan ddaeth Barack Obama yr arlywydd croenddu cynta’, roedd 1.8 miliwn o bobol wedi heidio i’r National Mall i weld y seremoni.

Bryd hynny, roedd gwestai wedi’u llenwi fisoedd o flaen llaw, ac fe fu rhai o drigolion y ddinas yn rhentu eu cartrefi am gannoedd o ddoleri y noson.

Y tro hwn, mae ystafelloedd ar gael am brisiau is na phedair blynedd yn ôl.