Mae dros 70 o ysgolheigion a chyfreithwyr amlwg yn China yn annog arweinwyr y Blaid Gomiwnyddol i wneud rhai newidiadau gwleidyddol yn y wlad.

Mae’r diwygiadau hynny’n cynnwys gwahanu’r blaid oddi wrth y llywodraeth… ond maen nhw’n osgoi dweud yn blaen fod angen cael gwared â rheolaeth un blaid.

Mae’r argymhellion i’r blaid wedi eu llunion gan yr Athro Zhang Qianfan o Brifysgol Peking, ac maen nhw’n galw am reolaeth yn unol â Chyfansoddiad, hawl i siarad yn rhydd, menter a busnes, yn ogystal â sefydlu trefn gyfreithiol annibynnol.

Yn ôl yr Athro Zhang, mae China mewn peryg o wynebu chwyldro o anrhefn os na fydd yna ddiwydio gwleidyddol yn digwydd – yn enwedig oherwydd fod pobol yn gweld mwy o anghyfartaledd, annhegwch materol, a llygredd.