Mae pennaeth heddlu milwrol Syria wedi croesi’r llawr ac ymuno â gwrthwynebwyr yr arlywydd Bashar Assad, yn ôl adroddiadau ar deledu’r wlad heddiw.
Mae’r Uwch Gapten Abdul-Aziz Jassem al-Shallal wedi ymddangos mewn fideo a gafodd ei darlledu ar sianel Al Arabiya, yn dweud ei fod yn “ymuno â chwyldro’r bobol”.
Yn ôl y milwr, mae’r fyddin wedi crwydro oddi wrth ei bwriad gwreiddiol o warchod y genedl, gan ddod yn “giang sy’n lladd a dinistrio”.
Mae dwsinau o filwyr wedi gadael y fyddin swyddogol ers i’r trafferthion yn Syria ddechrau ym Mawrth 2011. Ond al-Shallal ydi un o’r milwyr amlyca’ i adael.
Ym mis Gorffennaf, Manaf Tlass oedd yr aelod cynta’ o gylch mewnol yr arlywydd Assad i ymuno â’r gwrthwynebwyr.