Mae siopwyr wedi bod yn ciwio dros nos ar y stryd fawr ac mewn canolfannau siopau, yn barod ar gyfer sêls Gwyl San Steffan.

Ar hyd a lled y wlad, mae siopwyr cyffrous wedi bod yn awchu i wario eu talebau Nadolig, ac i fanteisio ar y bargeinion o heddiw ymlaen. Roedd rhai siopau’n agor am 7 o’r gloch heddiw.

Yng Nghymru, mae siopau fel Next a Debenhams wedi denu miloedd o siopwyr ers ben bore… ac yn Llundain, fe fu siopwyr yn ciwio trwy’r nos ar Oxford Street, yn barod ar gyfer peth cynta’ heddiw.

Eto yn Llundain, roedd miloedd o bobol yn aros i ddrysau siop Selfridges agor – a nifer yn gwybod yn iawn beth oedden nhw am ei brynu am bris gostyngol.