Mae Barack Obama yn dychwelyd yn gynnar o’i wyliau Nadolig yn Hawaii, er mwyn dychwelyd i Washington.
Mae’n dychwelyd i’r brifddinas er mwyn ceisio rhwystro economi’r Unol Daleithiau rhag mynd dros y dibyn.
Mae disgwyl i’r Arlywydd gyrraedd Washington yn fuan fore dydd Iau, yn ôl llefarydd ar ran y Ty Gwyn. Fe fydd ei wraig, Michelle, a’u dwy ferch yn aros yn Hawaii.
Yn y gorffennol, mae’r Arlywydd wedi arfer aros yn Hawaii ymhell i’r flwyddyn newydd. Roedd ef a’i deulu’n gadael Washington nos Wener ddiwetha’.
Ond mae disgwyl i aelodau’r Gyngres gyfarfod yn Washington ddydd Iau. Fe fydd toriadau gwario a chodiadau treth yn dod i rym yr wythnos nesa’, ar Ionawr 1.