Mohamed Morsi
Mae pobol yr Aifft wedi penderfynu o blaid cyfansoddiad Moslemaidd newydd – er mai llai na thraean oedd wedi pleidleisio mewn refferendwm.
Fe addawodd gwrthwynebwyr y drefn newydd y bydden nhw’n parhau i brotestio gan ddweud bod y bleidlais yn annheg.
Maen nhw’n honni y bydd y cyfansoddiad yn golygu llywodraeth Islamaidd a chyfyngu ar hawliau dynol. Roedden nhw wedi cynnal nifer o brotestiadau yn erbyn y cynigion.
Roedd Arlywydd yr Aifft, Mohamed Morsi, wedi addo dialog cenedlaethol ond wedi gwrthod dileu’r bleidlais a gafodd ei chynnal ddeng niwrnod yn ol. Y prif gefnogwyr oedd y Frawdoliaeth Foslemaidd.
Dim ond 32.9% o’r etholwyr oedd wedi pleidleisio ac, yn ôl Comisiwn Etholiadol yr Aifft, roedd 63.8% ohonyn nhw wedi pleidleisio tros y cyfansoddiad newydd.
Roedd y Comisiwn yn gwadu’r honiadau o annhegwch.