Y Pab (llun llyfrgell)
Mae’r Pab wedi condemnio lladd pobol “ddiamddiffyn” yn Syria, yn ei neges Nadolig.

Ac fe alwodd ar Israel a Phalestina i gael y “dewrder” i drafod er mwyn cael heddwch yn y Dwyrain Canol.

Yn ôl sylwebwyr, roedd y Pab Bened XVI yn swnio’n gryg a blinedig wrth draddodi ei neges arferol yn Sgwâr San Pedr.

Roedd ganddo neges hefyd i wledydd eraill yn y Dwyrain Canol. Fe alwodd ar lywodraethau newydd y ‘Gwanwyn Arabaidd’ i greu cymdeithasau teg a llawn parc.