Y dyrfa'n barod i fynd yn Exmouth (PA)
Roedd pobol ym Mhorthcawl ymhlith miloedd sydd wedi mentro i’r môr heddiw mewn digwyddiadau traddodiadol i godi arian.
Ar hyd a lled gwledydd Prydain, roedd pobol wedi gwisgo mewn dillad nofio neu wisg ffansi i fynd i’r dŵr.
Ym Mhorthcawl, roedden nhw’n codi arian at elusennau Cymreig, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd mwy na 1,000 o bobol wedi bod yn ymdrochi yn Exmouth yn Nyfnaint, er enghraifft, ac eraill yn mynd i mewn i’r Serpentine yn Hyde Park yn Llundain.