Karina Menzies
Fe gafodd tair merch o Gaerdydd anrhegion Nadolig arbennig heddiw – gan eu mam, a fu farw ddeufis yn ôl.
Fe gafodd Karina Menzies, 31, ei lladd pan yrrodd dyn gyda gwn yn wyllt trwy ardaloedd Trelái a Lecwydd gan saeth ar hap.
Ond, cyn marw, roedd wedi prynu rhai anrhegion Nadolig i’w tair merch sy’n 11, 8 a 2 oed ac fe gafodd y rheiny eu rhoi iddyn nhw heddiw gyda label “gan Mam”.
Chwaer Karina Menzies, Samantha, sydd wedi cymryd gofal o’r plant ac ge drefnodd roi’r anrhegion iddyn nhw – “dyma’r pethau ola’ a brynodd hi iddyn nhw,” meddai.
Fe gafodd Karina Menzies ei lladd ddiwedd mis Hydref – mae dyn wedi ei gyhuddo o’i llofruddio hi ac anafu nifer o bobol.