Andrew Mitchell
Mae un o is-gadeiryddion y Blaid Geidwadol wedi rhybuddio na ddylai’r helynt tros yr heddlu a’r cyn Brif Chwip Toriaidd arwain at erlid plismyn.

Wrth i’r sylw yn yr helynt droi yn erbyn yr heddlu, fe ddywedodd Michael Fabricant nad oedd y Andrew Mitchell, y gwleidydd, yn ddi-fai chwaith.

Mae un plismon wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddweud celwydd am y gwrthdaro, pan gyhuddwyd Andrew Mitchell o alw plismyn yn Downing Street yn  “plebs”.

Rhegi

Mae wedi gwadu hynny ond wedi cyfadde’i fod wedi rhegi ar y swyddogion oedd yn gwarchod y gatiau i stryd y Prif Weinidog a’r Canghellor.

Roedd Michael Fabricant yn ymateb ar ôl i Andrew Mitchell roi ei ochr ef o’r stori ym mhapur y Sunday Times.

“Dw i’n amau bod ychydig o fai ar y ddwy ochr,” meddai. “Does neb yn dod allan o hyn yn ddilychwin, naill ai’r heddlu nac Andrew.”