Y Pab
Mae’r Pab wedi anfon ei neges drydar gyntaf.
Ar ôl ymgyrch lawnsio hir-ddisgwyliedig gwasgodd y Pab Bened XVI y botwm ar dabled er mwyn anfon y neges mewn wyth iaith wahanol.
Nid y Pab 85 oed a deipiodd y geiriau ond mae’r Fatican wedi mynnu mai ei eiriau ef ydyn nhw.
Ar ei gyfrif @Pontifex ysgrifennodd,
“Annwyl ffrindiau, rwy’n falch o gysylltu gyda chi trwy gyfrwng Twitter. Diolch ichi am eich ymateb hael. Rwy’n eich bendithio chi o’m calon.”
Mae disgwyl iddo ateb negeseuon trydar o bedwar ban byd yn hwyrach heddiw. Mae ganddo eisoes dros filiwn o ddilynwyr.