Mae apêl Cronfa Gymorth Llifogydd Maer Llanelwy wedi casglu dros £25,000 mewn rhoddion gan y cyhoedd.
Cafodd y gronfa ei sefydlu yn dilyn llifogydd yn y ddinas bythefnos yn ôl.
“Rydyn ni wedi derbyn tua £29,000 hyd yn hyn,” meddai Maer Dinas Llanelwy, John Roberts.
“Rydyn ni wrth ein bodd bod pobl wedi bod mor hael gyda’u cyfraniadau ac mae pob ceiniog yn cael ei werthfawrogi.”
Dywedodd y maer wrth Golwg360 y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio mewn camau i helpu trigolion y 320 o dai sydd wedi cael eu heffeithio.
“Y cam cyntaf,” meddai, “yw bod pob tŷ sydd wedi eu heffeithio yn cael ffurflen drwy’r post yn fuan fel eu bod nhw’n gallu hawlio £100 yr un. Does dim digon o arian yn y banc eto ond rydyn ni’n ffyddiog y bydd oherwydd mae cyfraniadau yn dal i ddod mewn.”
“Yna, yn y flwyddyn newydd, fe fyddwn ni’n edrych yn fanylach ar achosion unigol i weld beth allwn ni ei wneud i helpu.”