Gwraig a merch Pat Finucane yn cyrraedd San Steffan
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi ymddiheuro i deulu Pat Finucane, cyfreithiwr o ogledd Iwerddon a gafodd ei saethu gan derfysgwyr unoliaethol yn 1989, am rôl asiantaethau Prydain yn y farwolaeth.
Mewn datganiad ar lawr Tŷ’r Cyffredin ar achlysur cyhoeddi adroddiad i farwolaeth Finucane, dywedodd David Cameron nad oedd adroddiad de Silva wedi dod o hyd i gynllwyn ar ran gwladwriaeth Prydain i ladd Pat Finucane, ond bod yna gyd-weithio “syfrdanol” wedi bod.
Cafodd Finucane, a fu’n cynrychioli aelodau o’r IRA mewn achosion llys, ei saethu yn ei gartref yng ngogledd Belfast ac mae ei deulu wedi dadlau ers blynyddoedd fod asiantaethau Prydain wedi cyd-weithio gyda mudiadau terfysgol unoliaethol er mwyn ei ladd.
Dywedodd David Cameron heddiw fod swyddogion gwladwriaeth Prydain wedi “hyrwyddo a hwyluso” llofruddiaeth Pat Finucane gan derfysgwyr unoliaethol.
Dywedodd fod adroddiad de Silva wedi canfod fod y Fyddin a Special Branch yn gwybod o flaen llaw am gyfres o lofruddiaethau gan fudiad yr UDA, ond na wnaethon nhw ddim byd.
“Mae’n ddrwg iawn gen i,” meddai David Cameron mewn neges i deulu Pat Finucane.
Mynegodd David Cameron ei obaith y bydd yr adroddiad heddiw yn helpu i symud y broses heddwch ymlaen yng ngogledd Iwerddon.
‘Celu’r gwir’
Ond mae gweddw Pat Finucane wedi wfftio’r adroddiad i farwolaeth ei gwr gan ddweud ei fod yn “celu’r gwir.”
Mae Geraldine Finucane wedi galw unwaith eto am ymchwiliad cyhoeddus llawn i farwolaeth ei gwr, gan gyhuddo Llywodraeth Prydain o geisio cuddio’r gwir a rhoi’r bai ar unigolion sydd bellach wedi marw a sefydliadau sydd wedi dod i ben, tra’n esgusodi gweinidogion, plismyn ac asiantaethau diogelwch.
Dywedodd bod yr adolygiad wedi cael ei gynnal gan “gyfreithiwr oedd a chysylltiadau agos a’r Blaid Geidwadol, a gafodd ei benodi gan Lywodraeth Geidwadol heb ymgynghoriad.”
Ychwanegodd Geraldine Finucane ei bod yn derbyn ymddiheuriad David Cameron ond nad oedd yn mynd yn ddigon pell.
Heno, fe wrthododd David Cameron ystyried galwadau i gynnal ymchwiliad cyhoeddus.