Brenda Chamberlain mewn arddangosfa ym Mangor ym 1968
Mae’r Athro Damian Walford Davies wedi galw am sefydlu cymdeithas i gofio am artist a llenor sydd, meddai, yn ffigwr o bwys Ewropeaidd.
Cafodd Brenda Chamberlain ei geni ym Mangor yn 1912 a bu farw yn 1971. Roedd hi’n artist cydnabeddig, ac yn llenor medrus a fu’n byw ar Ynys Enlli, Ynys Ydra yng Ngroeg, ac yn yr Almaen.
“Mae hi’n ffigwr diddorol oherwydd amrywiaeth ei doniau,” meddai Damian Walford Davies sy’n Bennaeth yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Roedd hi’n hyddysg mewn sawl ffurf llenyddol – roedd hi’n ysgrifennu barddoniaeth, nofelau ac fe wnaeth hi fwy neu lai greu genre dyddiaduron creadigol.
“Anaml iawn y cewch chi lenor Cymraeg gyda chyrhaeddiad Ewropeaidd , heb sôn am rhywun sydd yn artist ac yn llenor gyda chyrhaeddiad fel yna.”
Ar ganmlwyddiant ei geni, mae bywgraffiad newydd yn cael ei gyhoeddi yn ogystal ag ailgyhoeddiadau o’i gwaith hi ei hun ac mae Damian yn galw am sefydlu’r gymdeithas er mwyn “parhau â’r egni hwnnw”.
“Roeddwn i eisau taflu’r syniad o greu cymdeithas mas ‘na i weld beth fyddai’r ymateb ond rydyn ni angen achub ar y cyfle nawr i gyflwyno ei gwaith i gynulleidfaoedd newydd cyn i’w henw fynd ar gyfeiliorn eto, fel petai.”