Bydd S4C yn derbyn llai o arian gan Lywodraeth Prydain o’r flwyddyn nesaf ymlaen ar ôl i’r Adran Ddiwylliant yn Llundain benderfynu cwtogi ar y nawdd y mae’n ei roi i gyrff.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Maria Miller, wedi cyhoeddi y bydd toriadau o 1% yn nawdd y cyrff sy’n derbyn arian gan yr adran yn 2013-14, a thoriadau o 2% yn 2014-5.

Erbyn hynny bydd S4C yn derbyn y rhan fwyaf o’i chyllid o’r Drwydded Deledu, ond roedd disgwyl i’r Adran Ddiwylliant roi  £6.7m i S4C yn 2013-14, a £7m yn 2014-15.

Mae disgwyl felly i S4C dderbyn £67,000 yn llai yn 2013-14, a £140,000 yn 2014-15.

Ymhlith cyrff eraill sy’n cael eu heffeithio gan y toriadau mae Sport England, y Llyfrgell Brydeinig a’r Amgueddfa Brydeinig.

‘Yn ystyried sut i ddelio â goblygiadau’r cyhoeddiad’

Wrth ymateb i’r toriad dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Mae S4C wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn rhoi gwybod y bydd y rhan o’n cyllideb sy’n dod yn uniongyrchol ganddyn nhw yn cael ei dorri o 1% ychwanegol yn 2013/14 a 2% pellach yn 2014/15.

“Bydd hyn yn lleihau’r grant o £7m oedd wedi’i warantu gan Lywodraeth y DG fel rhan o’r adolygiad gwariant ym mis Hydref 2010.

“Rydym yn nodi bod DCMS wedi sicrhau bod toriadau newydd yn gyson ar draws y cyrff y mae’r adran yn eu cyllido.  Yn achos S4C mae’r toriadau hyn yn ychwanegol i’r toriadau oedd eisoes wedi’u cyhoeddi i’n cyllideb – sef 36% rhwng 2010 a 2014.

“Fe fyddwn ni nawr yn ystyried sut i ddelio â goblygiadau’r cyhoeddiad hwn, gan gadw mewn golwg yr effaith economaidd y mae toriadau i gyllideb S4C yn ei hachosi.”

Mae disgwyl eisoes i gyfraniadau Ymddiriedolaeth y BBC tuag at S4C ddisgyn, o £76.3m yn 2013-14 i £74.5m yn 2016-17.