Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na fydd y Llywodraeth yn dwyn achos pellach yn erbyn BBC Cymru ac S4C dros ddarlledu pennod ddadleuol o Bobol y Cwm.
Dywedodd Carwyn Jones heddiw nad oes “pwynt mynd â’r mater ymhellach” ar ôl i bennod o’r opera sebon, oedd yn trafod difa moch daear, ennyn beirniadaeth Llywodraeth Cymru.
Gofynnodd y Llywodraeth i S4C beidio ail-ddarlledu’r bennod y diwrnod canlynol, ar Dachwedd 29, ond gwrthododd S4C â thynnu’r rhaglen oddi ar ei hamserlen.
Dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn difaru gwneud cwyn am y bennod.
“Roedd pwnc wedi codi a gafodd ei gyflwyno mewn modd anarferol mewn pennod benodol o Bobol y Cwm.
“Roedd hi’n bwysig i godi’r mater, ac mae’r BBC wedi ymateb.”
Mae adolygiad mewnol gan BBC Cymru, sy’n cynhyrchu Pobol y Cwm, wedi dod i’r casgliad fod y bennod yn “gytbwys” ac nad oedd y cynhyrchwyr wedi torri canllawiau darlledu’r Gorfforaeth.