Mae Prydain wedi galw llysgennad Israel i’r Swyddfa Dramor fel arwydd o brotest yn erbyn codi 3,000 o dai i ymsefydlwyr ar y Lan Orllewinol.
Mae Prydain hefyd yn ystyried galw ei llysgennad yn Tel Aviv yn ôl adref ar ôl i Israel gyhoeddi’r datblygiad tai trannoeth y bleidlais yn y Cenhedloedd Unedig o blaid cydnabod Palesteina.
Cafodd llysgennad Israel Daviel Taub wybod heddiw am “ddyfnder pryder Prydain” am y datblygiad yn ei gyfarfod gyda’r Gweinidog dros y Dwyrain Canol, Alistair Burt.
“Rydym yn gresynu penderfyniad llywodraeth yr Israel i godi 3,000 o unedau newydd ac i ddad-rewi datblygu o fewn bloc E1,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.
“Mae hyn yn bygwth y posibilrwydd o gael dwy wladwriaeth.”
“Ymateb cryf”
Mae Prydain wedi rhybuddio Israel y bydd “ymateb cryf” os aiff y datblygiad tai yn ei flaen.
Mae datblygiad tai E1 mewn ardal ddadleuol yn nwyrain Jerusalem, ac mae Palestiniaid yn dadlau y byddai’n rhannu eu tiriogaeth ar y Lan Orllewinol yn ddwy.
Yn y bleidlais ar gydnabod gwladwriaeth Palesteina ddydd Iau ymataliodd Prydain rhag pleidlesio. Dywedodd William Hague y byddai pledleisio o blaid Palesteina wedi cythruddo’r Israeliaid ac arafu’r broses heddwch.