Yr Arlywydd Morsi
Mae barnwyr Uchaf Lys yr Aifft yn gwrthod gweithio am gyfnod amhenodol oherwydd “pwysau seicolegol a materol” gan gefnogwyr Islamaidd yr Arlywydd Morsi.

Mae asiantaeth newyddion Reuters yn dweud bod barnwyr y llys wedi rhyddhau datganiad sy’n dweud eu bod “yn nodi gyda chryn ofid eu bod yn gohirio holl sesiynnau’r llys hyd nes y bydd modd parhau efo’u neges a’u penderfyniadau heb unrhyw bwysau materol a seicolegol. Mae’r llys yn nodi gyda’r gofid dyfnaf y dulliau o fradlofruddiad seicolegol sy’n cael eu defnyddio yn erbyn y barnwyr.”

Roedd y llys i fod i benderfynu p’run ai i ddiddymu’r cynulliad a uwch gyngor senedd y wlad ai pheidio ond fe wnaeth yr Arlywydd Morsi gyhoeddi na fuasai modd gorfodi unrhyw ddyfarniad am hyn.

Mae’r Arlywydd wedi mabwysiadu llawer o bwerau newydd iddo’i hun ddiwedd Tachwedd sydd yn cyfyngu yn arw ar rym y barnwyr.

Cynhaliwyd raliau i gefnogi’r Arlywydd yn yr Aifft ddoe ond mae ei wrthwynebwyr yn parhau i brotestio yn Sgwar Tahir ynghanol Cairo.

Dywed sawl arbennigwr ar wleidyddiaeth yr Aifft y bydd y sefyllfa yno yn parhau yn fregus hyd nes y bydd y refferendwm ar y cyfansoddiad newydd yn cael ei gynnal ar 15 Rhagfyr.