Leigh Halfpenny
Mae cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, wedi cael mynd adref o Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar ôl cael ei anafu yn y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddoe.

Cafodd ei gario oddi ar y cae tra’n ceisio atal Kurtley Beale rhag sgorio’r cais ennillodd y gêm i’r Awstraliaid.

Yn dilyn y gêm, dechreuodd gwyno am boen yn ei wddf ac fe anfonwyd ef i’r ysbyty i gael profion oedd yn cynnwys sgan.

Bu yno dros nos ond cafodd ddod adre’r bore yma gan ddiolch i’r oll o’r staff meddygol oedd wedi rhoi triniaeth iddo ar y cae ac yn yr ysbyty.