Julia Gillard
Mae Prif Weinidog Awstralia wedi gorchymyn ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant mewn sefydliadau gwladol a chrefyddol a grwpiau cymunedol.
Mae’n dilyn cyfres o gyhuddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn offeiriaid a honiadau gan yr heddlu bod yr Eglwys Gatholig wedi ceisio celu’r wybodaeth.
Mae’r Prif Weinidog Julia Gillard wedi bod dan bwysau i gynnal ymchwiliad ar ôl i swyddog blaenllaw o’r heddlu ddweud yr wythnos ddiwethaf bod yr Eglwys Gatholig wedi ceisio celu achosion o gam-drin plant yn ardal Hunter Valley, i’r gogledd o Sydney.
Dywedodd Archesgob Sydney, y Cardinal George Pell, y byddai’r eglwys yn cydweithredu gyda’r ymchwiliad.