Helen Boaden
Mae cyfarwyddwr newyddion y BBC Helen Boaden, a’i dirprwy, Stephen Mitchell, wedi camu lawr heddiw yn sgil yr helynt am adroddiad Newsnight i i gam-drin plant yng ngogledd Cymru.
Daw’r camau diweddaraf yn dilyn ymddiswyddiad y cyfarwyddwr cyffredinol George Entwistle ddydd Sadwrn ar ôl i gyn drysorydd y Blaid Geidwadol, yr Arglwydd McAlpine, gael ei gysylltu ar gam gydag achosion o gam-drin plant yng ngogledd Cymru, ar raglen Newsnight.
Fe fydd pennaeth newyddion y BBC, Fran Unsworth a Ceri Thomas, golygydd rhaglen Today ar Radio 4, yn cymryd lle Helen Boaden a Stephen Mitchell dros dro.
Daw’r newidiadau yn dilyn adroddiad i ymchwiliad Newsnight gan gyfarwyddwr y BBC yn yr Alban, Ken MacQuarrie.
Mae’r ymateb i’r adroddiad yn un o’r prif bynciau y bydd cyfarwyddwr cyffredinol dros dro’r BBC, Tim Davie, yn delio a nhw wrth iddo geisio adfer ffydd yn y gorfforaeth.
Bu Tim Davie yn cynnal ei gyfarfod cyntaf neithiwr gydag Ymddiriedolaeth y BBC ers cael ei benodi i gymryd lle George Entwistle.
Wrth ymateb i’r adroddiad fe gyhoeddodd y BBC y byddan nhw’n sefydlu system reolaethol newydd i ddelio gyda holl gynnyrch y gorfforaeth.
Ychwanegodd y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i ran rhai unigolion yn yr helynt, ac y byddai camau disgyblu yn cael eu cymryd lle’r oedd hynny’n briodol.
Mae ymchwiliad eisoes ar y gweill i’r penderfyniad i ollwng adroddiad Newsnight y llynedd a oedd yn edrych ar honiadau o gam-drin yn erbyn Jimmy Savile. Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal gan gyn bennaeth Sky News Nick Pollard.
Dywedodd y BBC bod Helen Boaden wedi penderfynu na fyddai’n gallu “ymgymryd â’i dyletswyddau fel cyfarwyddwr newyddion nes bod adolygiad Pollard wedi dod i ben.”
Fe fydd Karen O’Connor, cyn ddirprwy olygydd Panorama a Newsnight, yn cymryd drosodd fel golygydd Newsnight dros dro.
Cyflog blwyddyn
Yn y cyfamser mae ffrae yn corddi ar ôl iddi ddod i’r amlwg y bydd George Entwistle – a oedd yn ei swydd am 54 diwrnod – yn derbyn cyflog blwyddyn o £450,000 wrth adael ei swydd.
O dan delerau ei gytundeb roedd ganddo’r hawl i dderbyn chwe mis o gyflog ond dywed yr ymddiriedolaeth bod y tal ychwanegol yn cael ei roi i adlewyrchu ei gysylltiad parhaol gyda’r ymchwiliadau sydd bellach ar y gweill yn y BBC.
Ond mae’r penderfyniad wedi cythruddo Aelodau Seneddol. Dywedodd cadeirydd pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Senedd, John Wittingdale, bod yn rhaid i’r ymddiriedolaeth esbonio sut y gall gyfiawnhau rhoi cyflog mor hael i Entwistle.
“Yn bendant rwyf am gael gwybod gan yr ymddiriedolaeth pam eu bod nhw’n meddwl bod hynny’n briodol. Rwy’n ei chael yn anodd iawn gweld sut y gellir cyfiawnhau rhoi cymaint â hynny o arian i rywun sydd wedi gorfod ymddiswyddo o dan y fath amgylchiadau,” meddai.
A dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Harriet Harman bod y tal ychwanegol yn edrych fel petai’n cael ei “wobrwyo am ei fethiant.”
“Nid dyma’r ffordd i adfer hyder y cyhoedd yn y BBC,” ychwanegodd.