Tim Davie
Fe fydd cyfarwyddwr cyffredinol dros dro’r BBC yn amlinellu ei gynlluniau heddiw ynglŷn â sut i adfer ffydd yn y gorfforaeth yn dilyn yr helynt am ymchwiliad Newsnight i gam-drin plant.

Bu Tim Davie yn cynnal ei gyfarfod cyntaf neithiwr gydag Ymddiriedolaeth y BBC ers cael ei benodi i gymryd lle George Entwistle, a gyhoeddodd ei fod yn ymddiswyddo ddydd Sadwrn yn sgil yr helynt.

Fe gyhoeddwyd bore ma hefyd bod cyfarwyddwr newyddion y BBC Helen Boaden a’i dirprwy Stephen Mitchell, wedi camu o’r neilltu.

Yn y cyfamser mae ffrae yn corddi ar ôl iddi ddod i’r amlwg y bydd George Entwistle – a oedd yn ei swydd am 54 diwrnod – yn derbyn cyflog blwyddyn o £450,000 wrth adael ei swydd.

O dan delerau ei gytundeb roedd ganddo’r hawl i dderbyn chwe mis o gyflog ond dywed yr ymddiriedolaeth bod y tal ychwanegol yn cael ei roi i adlewyrchu ei gysylltiad parhaol gyda’r ymchwiliadau sydd bellach ar y gweill yn y BBC.

‘Gwobrwyo am fethiant’

Ond mae’r penderfyniad wedi cythruddo Aelodau Seneddol. Dywedodd cadeirydd pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Senedd, John Wittingdale, bod yn rhaid i’r ymddiriedolaeth esbonio sut y gall gyfiawnhau rhoi cyflog mor hael i Entwistle.

“Yn bendant rwyf am gael gwybod gan yr ymddiriedolaeth pam eu bod nhw’n meddwl bod hynny’n briodol. Rwy’n ei chael yn anodd iawn gweld sut y gellir cyfiawnhau rhoi cymaint â hynny o arian i rywun sydd wedi gorfod ymddiswyddo o dan y fath amgylchiadau,”  meddai.

A dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Harriet Harman bod y tal ychwanegol yn edrych fel petai’n cael ei “wobrwyo am ei fethiant.”

“Nid dyma’r ffordd i adfer hyder y cyhoedd yn y BBC,” ychwanegodd.

Newsnight

Roedd Tim Davie wedi derbyn adroddiad ddoe gan gyfarwyddwr y BBC yn yr Alban Ken MacQuarrie ynglyn a sut roedd Newsnight wedi cysylltu cyn drysorydd y Blaid Geidwadol, yr Arglwydd McAlpine, gydag achosion o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru, ar gam.

Cyn iddo ymddiswyddo, fe rybuddiodd George Entwistle, a oedd wedi comisiynu’r adroddiad, y gallai arwain at ddisgyblu staff.

Mae’n ymddangos bod dyfodol Newsnight hefyd yn y fantol gyda chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC yr Arglwydd Patten yn rhybuddio y byddai’n rhaid gwneud “penderfyniadau rheoleiddio anodd”.

Mae’r Arglwydd Patten hefyd wedi cydnabod bod yn rhaid i’r gorfforaeth fynd i’r afael a’r helynt, neu fe fydd pwysau arno yntau i fynd hefyd, meddai.